Hysbysiad preifatrwydd
Mae’r dudalen hon yn amlinellu polisi preifatrwydd gwasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG (NHSBT). Mae’n esbonio eich hawliau ac yn rhoi’r wybodaeth y mae gennych hawl i’w gweld o dan Ddeddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
Mae ein tudalen rhyddid gwybodaeth a phreifatrwydd yn cynnwys gwybodaeth am sut y gallwch ofyn am wybodaeth wedi’i chofnodi a gedwir gan NHSBT.
Cliciwch ar bob adran i gael gwybod mwy.
Mae’r NHSBT yn darparu gwasanaeth gwaed a thrawsblaniadau i’r GIG. Rydym yn gofalu am wasanaethau rhoi gwaed yn Lloegr a gwasanaethau trawsblaniadau ar draws y DU.
Mae hyn yn cynnwys rheoli’r prosesau o roi, storio a thrawsblannu gwaed a chyfansoddion gwaed, organau, meinweoedd, mêr esgyrn a bôn-gelloedd, ac ymchwilio i driniaethau a phrosesau newydd.
Ar hyd y pandemig COVID-19 bu’r sector iechyd a gofal, gan gynnwys NHSBT, yn prosesu gwybodaeth ar gyflymder ac ar raddfa nas gwelwyd o’r blaen. Gwnaethom hyn i sicrhau diogelwch cleifion ac i ddiogelu bywyd yn ystod cyfnod digynsail.
Er mwyn i ni allu rhannu a defnyddio’r wybodaeth hon at ddibenion sy’n gysylltiedig â COVID-19, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol hysbysiad Rheoliadau Rheoli Gwybodaeth Cleifion (COPI) 2002.
Edrychwch ar hysbysiad Rheoliadau Rheoli Gwybodaeth Cleifion (COPI) 2002
Roedd yr hysbysiad yn weithredol hyd at ddiwedd Mehefin 2022, ac nid ydym yn prosesu data yn y dull hwn mwyach.
Rydym yn prosesu gwybodaeth bersonol amdanoch chi er mwyn i ni allu parhau i ddarparu lefel uwch o wasanaeth i’r cyhoedd ar gyfer rhoi gwaed ac organau.
Mae cynnal safonau uchel wrth ymdrin â gwybodaeth bersonol yn hollbwysig i ni, oherwydd maent yn ein helpu i gynnal cyfrinachedd gan ein cwsmeriaid, cyflenwyr, partneriaid a’r cyhoedd yn gyffredinol yn y DU.
Wrth ymdrin â’ch data, byddwn yn:
- gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod pam ein bod ei angen
- ond yn gofyn am yr hyn sydd ei angen arnom, ac yn casglu’r swm gofynnol sydd ei angen
- diogelu eich gwybodaeth a sicrhau nad oes gan unrhyw un heb awdurdod fynediad ato
- rhoi gwybod i chi os byddwn yn ei rannu gyda sefydliadau eraill
- gwneud yn siŵr na fyddwn yn cadw eich gwybodaeth am gyfnod hwy na’r hyn sydd ei angen
- sicrhau bod gennych hawl i ofyn i unrhyw wybodaeth anghywir gael ei chywiro
- ni fyddwn yn caniatáu i’ch gwybodaeth bersonol fod ar gael ar gyfer defnydd masnachol heb eich caniatâd chi
- sicrhau bod mesurau ar waith i sicrhau caniatâd priodol ar gyfer cadw gwybodaeth bersonol unrhyw un o dan 13 oed
Yn ogystal â hyn, byddwn yn:
- gwerthfawrogi’r wybodaeth bersonol a ymddiriedwyd i ni ac yn gwneud yn siŵr ein bod yn glynu at y gyfraith wrth ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol
- sicrhau ein bod yn ystyried diogelwch ar ddechrau unrhyw brosiect newydd lle’r ydym yn cynllunio i gadw neu ddefnyddio gwybodaeth bersonol mewn ffyrdd newydd, a pharhau i adolygu systemau presennol i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â chyfreithiau newydd
- darparu hyfforddiant i staff ar sut i ymdrin â gwybodaeth bersonol, cynnal goruchwyliaeth briodol o’n hasedau gwybodaeth ac ymateb yn briodol os na chaiff gwybodaeth ei defnyddio neu ei diogelu’n briodol
Rydym yn prosesu gwybodaeth i’n galluogi i:
- Hyrwyddo ein polisïau, gweithdrefnau a gwasanaethau i’r cyhoedd
- Cynnal ein cyfrifon a’n cofnodion a chefnogi a rheoli ein staff
- Gwneud gwaith ymchwil a datblygu er mwyn gwella canlyniadau cleifion
- Darparu gwasanaethau rhoi gwaed ac organau ar gyfer darparu gofal a thriniaeth i gleifion
Rydym hefyd yn prosesu gwybodaeth i gynnwys gweinyddu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, rheoli a gweinyddu tir, eiddo ac eiddo preswyl a gwneud gwaith ymchwil.
Rydym yn gweithredu system camerâu teledu cylch cyfyng ar ein safleoedd er mwyn atal troseddau a sicrhau diogelwch ein staff a’n safleoedd.
Mae paragraff 7 Pennod 2 Deddf Diogelu Data 2018, yn datgan y gall NHSBT, fel corff llywodraethu, brosesu data personol fel y bo angen er mwyn cyflawni tasg a gynhelir er budd y cyhoedd yn effeithiol.
Os na fydd y ddarpariaeth hon yn berthnasol byddwn bob amser yn nodi ar ba sail gyfreithlon y caiff eich gwybodaeth bersonol ei phrosesu fel y’i diffinnir gan Erthygl 6 a 9 GDPR y DU.
Mae gan NHSBT rwymedigaethau hefyd o dan Reoliadau Diogelwch ac Ansawdd Gwaed 2005, Rheoliadau Ansawdd a Diogelwch Meinweoedd a Chelloedd 2007, i wneud yn siŵr y gellir olrhain pob rhodd o waed a thrawsblaniadau organau o’r rhoddwr i’r derbynnydd. Mae hyn yn ofyniad hollbwysig er mwyn cyflawni gofal clinigol diogel.
Felly, gallai hyn effeithio ar eich hawliau unigol, yn benodol eich hawl i ddileu a chael eich anghofio. Y rheswm am hyn yw bod yn rhaid i NHSBT gadw pob cofnod clinigol am 30 o flynyddoedd os byddwch yn rhoddwr, er mwyn sicrhau olrheiniadwyedd yn unol â'r rheoliadau a restrir uchod.
Lle bo angen, bydd Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG hefyd yn bodloni dyletswydd cyfrinachedd y gyfraith gyffredin, a bydd yn diffinio’r sail gyfreithlon ar gyfer datgelu'r wybodaeth bersonol a ddarparwyd yn gyfrinachol, gall hyn gynnwys; cydsyniad gwybodus dilys; pennu budd cyhoeddus o’r pwys mwyaf neu lle mae sail statudol neu ddyletswydd gyfreithiol i ddatgelu.
Rydym yn prosesu gwybodaeth am ein:
- Cwsmeriaid
- Cyflenwyr a darparwyr
- Cynghorwyr, ymgynghorwyr ac arbenigwyr proffesiynol eraill
- Cwynion ac ymholiadau
- Myfyrwyr ar leoliadau
- Academyddion
- Aelodau a chefnogwyr undebau
- Staff y GIG
- Aelodau’r cyhoedd at ddibenion camerâu teledu cylch cyfyng
- Ymgeiswyr ymchwil
- Ymchwilwyr
- Cleifion a Rhoddwyr
- Aelodau teuluoedd rhoddwyr
Fel Rheolydd Data eich data personol, efallai y bydd angen i ni, lle bo angen, ac yn unol â deddfwriaeth diogelu data, rannu eich data (a gall ein proseswyr data hefyd rannu gwybodaeth) â sefydliadau eraill.
Dyma rai enghreifftiau o fathau o sefydliadau y gallwn, os oes angen, rannu eich data gyda hwy. Sylwch y bydd y data a rennir yn dibynnu ar y math o wasanaeth a ddefnyddir o fewn Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG.
- Asiantaethau cyflogaeth a recriwtio – i gael geirda cyflogaeth at ddibenion recriwtio
- Cyflogwyr presennol a blaenorol – i ddilysu eich hanes cyflogaeth at ddibenion recriwtio
- Cyflenwyr a darparwyr gwasanaethau – i gefnogi’r gwasanaethau a ddarparwn i’r cyhoedd
- Archwilio mewnol y Llywodraeth ac archwilwyr eraill yn ôl yr angen - i gefnogi gweithgareddau archwilio rheolaidd a chynnal proses o graffu ar benderfyniadau a gweithgareddau awdurdodau cyhoeddus
- Sefydliadau iechyd a gofal – i ddilysu gweithgarwch clinigol ac anghlinigol, er enghraifft darparu cynnyrch gwaed a gwasanaethu profi ar gyfer gofal a thriniaeth cleifion
- Asiantaethau gorfodi'r gyfraith statudol eraill - i gynorthwyo gydag unrhyw weithgaredd cyfreithiol neu dwyllodrus
- Sefydliadau arolygu ac ymchwil – er mwyn rhannu eich gwybodaeth at ddibenion ymchwil pan fyddwch chi wedi cydsynio i fod yn rhan o astudiaeth
- Rheoleiddwyr y llywodraeth – i gefnogi archwiliad ac ymchwiliadau sefydliadol er enghraifft Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
- Yr heddlu – I gynorthwyo gydag ymholiadau’r heddlu yn unol â deddfwriaeth berthnasol
- Y Gyfarwyddiaeth Trawsnewid yn GIG Lloegr – Mae Gwasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG yn gweithio’n agos gyda’r Gyfarwyddiaeth Trawsnewid yn GIG Lloegr (NHS Digital gynt), sef darparwr cenedlaethol systemau TG a data gwybodaeth. Mae gan y Gyfarwyddiaeth Trawsnewid yn GIG Lloegr bwerau cyfreithiol o dan y Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ddosbarthu data i ddarparwyr iechyd a gofal cymdeithasol, fel Gwasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG. Rydym yn defnyddio’r data hwnnw i wella gwasanaethau, i werthuso ac i ymchwilio. Mae hyn yn cynnwys:
- Cryostat2 (DU): Gwerthuso effeithiau dos uchel cynnar o cryoprecipitate
- Melody: Gwerthuso profion imiwnedd llif unffordd i ganfod ymatebion gan wrthgyrff SARS-CoV-2
- Data ynghylch Rhoddion Plasma Ymadfer: Nodi statws brechu i gefnogi triniaeth ar gyfer cleifion COVID-19 a mwy o blasma ar gyfer meddyginiaethau
Y tu hwnt i eithriadau penodol o dan ddeddfwriaeth benodol sy’n ymwneud â data personol, ni fydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw am gyfnod hwy na’r dibenion y mae’n cael ei phrosesu ar eu cyfer.
Rydym yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer Rheoli Cofnodion ar gyfer 2021.
Mae'n ofynnol i ni o dan Reoliadau Ansawdd Gwaed a Diogelwch 2007 a Rheoliadau Ansawdd a Diogelwch Organau 2012 i gadw a phrosesu eich data am o leiaf 30 mlynedd.
Mae hyn er mwyn sicrhau olrheiniadwyedd llawn hyd at y pwynt darparu i ysbyty.
Y data rydym yn ei gasglu yw eich gwybodaeth bersonol ac mae gennych gryn ddylanwad ynghylch beth sy’n digwydd i’r wybodaeth hon. Yn amodol ar y sail gyfreithiol dros brosesu, mae gennych gyfres o hawliau unigol.
Gallwch:
- Gweld pa ddata rydym yn ei gadw amdanoch (hawl mynediad)
- Gofyn i ni roi’r gorau i ddefnyddio eich data, ond cadw cofnod ohono (hawl i ddileu)
- Gofyn i ni ddileu rhywfaint o’ch data neu’r cyfan ohono (hawl i ddileu)
- Gofyn i rywfaint o’ch data gael ei gywiro (hawl i gywiro)
- Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) os ydych yn credu nad ydym yn ymdrin â’ch data yn deg neu’n unol â’r gyfraith
Mae’r ddeddfwriaeth Diogelu Data yn caniatáu i chi ganfod pa wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw amdanoch ar gyfrifiadur ac mewn cofnodion TG (cais gwrthrych am wybodaeth yn flaenorol).
Mae’r ddeddfwriaeth yn mynnu ein bod yn ymateb i gais dilys o fewn un mis. Fodd bynnag, os na allwn gyflawni’r amserlen hon (er enghraifft, o ganlyniad i asesu swm mawr o wybodaeth) byddwn yn rhoi gwybod i chi am y cynnydd tuag at gyflawni eich cais.
I ofyn am fynediad at ddata personol sydd gennym amdanoch, ysgrifennwch at ein Swyddog Diogelu Data gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar y dudalen hon.
I wneud Cais Gwrthrych am Wybodaeth, anfonwch e-bost i: sar@nhsbt.nhs.uk
Mae NHSBT yn gweithio i ganfod ffyrdd i ddatblygu triniaethau gwell ar gyfer gofal. Gellir defnyddio’r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi i helpu ein hymchwilwyr i ddeall mwy am achosion salwch a’r ffordd orau i’w trin.
Rydym yn dilyn rheolau llym i sicrhau y cedwir eich data personol yn ddiogel a chyfrinachol bob amser. Pan fo’n bosibl, rydym yn dileu unrhyw wybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych chi, er enghraifft eich enw, cyfeiriad a’ch cod post.
Os na fydd yn ymarferol i ni ddileu gwybodaeth o’r fath, mae gennym gyfrifoldeb cyfreithiol i ofyn am eich caniatâd penodol neu i nodi sail gyfreithiol briodol i brosesu eich data.
Mae’r data personol rydych chi’n ei roi wrth gofrestru eich penderfyniad am roi organau a meinwe yn cael ei gofnodi ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG ac mae’n cael ei ddefnyddio er mwyn gallu trafod eich penderfyniad pan fydd posibilrwydd o roi organau. Mae Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG yn gofyn am y data sylfaenol sydd ei angen adeg cofrestru er mwyn sicrhau ein bod yn gallu eich adnabod chi a’n bod yn deall eich penderfyniad ynghylch rhoi organau yn glir.
Mae manylion y data personol y gofynnwyd amdano fel rhan o’ch proses gofrestru i’w gweld isod:
- Eitemau data gorfodol at ddibenion adnabod a chadarnhau eich penderfyniad
- Enw (Enw cyntaf, Cyfenw)
- Cyfeiriad
- Cod Post
- Dyddiad geni
- Penderfyniad ynghylch rhoi organau (Rhoi – rhai neu bob organ a meinwe, Peidio â rhoi, Tynnu’n ôl)
- Eitemau dewisol o ddata i gynorthwyo gyda’r dull adnabod, i adfer eich Rhif GIG, ac i gael gwell dealltwriaeth o'ch penderfyniad a'ch manylion cyswllt
- Teitl
- Enw canol
- Enw rydych yn ei ddefnyddio
- Sut y cewch eich cofnodi ar gofnod meddygol eich meddyg teulu (Benyw, Gwryw neu dim un ohonynt)
- E-bost
- Ffôn
- Ffôn symudol
- Datganiad ffydd
- Mae’r ddwy eitem ddata ddewisol ychwanegol a ganlyn (ynghyd â’r eitem ddata Rhywedd y gellir ei chasglu drwy bartneriaid cofrestru trydydd parti), yn cael eu defnyddio i’n helpu i ddeall mwy am y bobl sy’n cofrestru. Nid yw Ethnigrwydd a Chrefydd yn cael eu storio yn erbyn cofrestriadau unigol.
- Ethnigrwydd
- Crefydd
Defnyddir manylion cyswllt megis cyfeiriad, e-bost, ffôn a ffôn symudol er mwyn cwblhau eich cofrestriad, a allai gynnwys anfon llythyr cadarnhau atoch. Ni fydd y manylion hyn byth yn cael eu defnyddio at ddibenion marchnata.
Fel rhan o’r broses gofrestru, mae’n bosibl y bydd rhai eitemau ychwanegol o ddata personol yn cael eu casglu a’u cofnodi ar eich cofrestriad i helpu i’ch adnabod pan fydd posibilrwydd o roi organau:
- Rhif GIG
- Gweler isod Gwasanaeth Swp Demograffeg GIG Lloegr (Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus)
- Rhif CHI
- Gweler isod Gwasanaethau Cenedlaethol y GIG yn yr Alban (Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus)
- Rhif Iechyd a Gofal
- Gweler isod Sefydliad Gwasanaethau Busnes Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon (Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus)
- Rhif eich trwydded yrru
- Os byddwch yn cofrestru eich penderfyniad ynghylch rhoi organau drwy’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)
- Rhif Gyrrwr DVANI
- Ar gael os byddwch yn cofrestru fel rhoddwr organau drwy Asiantaeth Gyrwyr a Cherbydau Gogledd Iwerddon
Mae Cofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG yn rhannu eich data personol â Gwasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG ac â grŵp dethol o sefydliadau’r GIG a darparwyr gwasanaethau trydydd parti. Mae rhagor o wybodaeth am y bobl a’r sefydliadau rydyn ni’n rhannu gwybodaeth â nhw a’r pwrpas wedi’i nodi isod.
Gyda phwy ydych chi’n rhannu fy nata personol?
Staff Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r broses rhoi organau a meinweoedd. Mae hyn yn cynnwys:
- Nyrsys a gweinyddwyr arbenigol ar gyfer rhoi organau a meinweoedd, sy’n cefnogi’r broses o roi organau a meinweoedd yn y Deyrnas Unedig ac sy’n gallu cael gafael ar y data sylfaenol sydd ei angen i weld a ydych chi wedi cofnodi penderfyniad ynghylch rhoi organau a meinweoedd, a fydd yn helpu i lywio sgwrs â’ch teulu am roi organau
- Gweithrediadau Cofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG, sydd â mynediad at eich data cofrestru i reoli gwasanaeth Cofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG
Darparwyr Gwasanaethau Trydydd Parti. Mae hyn yn cynnwys:
- Cynghorwyr Llinell Gymorth Rhoi Organau’r GIG, sy’n gallu cael gafael ar y data cofrestru i helpu i ymateb i ymholiadau’r rheini sy’n ffonio. Gall hyn gynnwys creu neu ddiweddaru cofrestriad ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG
- Gwasanaeth postio, sy’n gyfrifol am gynhyrchu ac anfon llythyrau cadarnhau cofrestru ar gyfer rhoi organau. Mae’r data sylfaenol angenrheidiol yn cael ei rannu â’r gwasanaeth postio at y diben hwn yn unig
- Gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth, sy’n rhoi cefnogaeth dechnegol a chynnal a chadw ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG
- GIG Lloegr sy’n darparu Ap y GIG Fel defnyddiwr Ap y GIG, gallwch gofnodi eich penderfyniad ynghylch rhoi organau a phan fydd hynny’n berthnasol, gallwch weld eich data am eich penderfyniad ynghylch rhoi organau fel y mae wedi’i gofnodi ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG. Nid yw Ap y GIG yn storio data eich penderfyniad ynghylch rhoi organau ond mae’n golygu bod modd prosesu eich data personol neu’ch data am benderfyniadau ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG
Gwasanaethau eraill y GIG sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r broses rhoi organau a meinweoedd. Mae hyn yn cynnwys:
- Gwasanaeth Cenedlaethol y GIG yr Alban (gwasanaeth iechyd y cyhoedd), sy’n cyflogi nyrsys arbenigol i roi meinweoedd sy’n cefnogi’r broses o roi meinweoedd yn yr Alban ac sy’n gallu cael gafael ar y data sylfaenol sydd ei angen i weld a ydych chi wedi cofnodi penderfyniad rhoi meinweoedd a fydd yn helpu i lywio sgwrs gyda’ch teulu am roi organau
Gwasanaethau eraill y GIG sy’n cefnogi'r broses rhoi organau a meinweoedd. Mae hyn yn cynnwys:
- Gwasanaeth Swp Demograffeg GIG Lloegr (gwasanaeth iechyd cyhoeddus), sy’n galluogi Cofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG i gysylltu â’r gwasanaeth hwn ar gyfer trigolion Cymru a Lloegr ac sy’n rhannu’r data sylfaenol sydd ei angen er mwyn cael eich rhif GIG a chofnodi hyn ar eich cofrestriad. Gall eich rhif GIG helpu i ddod o hyd i chi
- Gwasanaeth Cenedlaethol y GIG yn yr Alban (gwasanaeth iechyd cyhoeddus), sy’n galluogi Cofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG i gysylltu â’r gwasanaeth hwn ar gyfer trigolion yr Alban a rhannu’r data sylfaenol sy’n angenrheidiol er mwyn adfer eich rhif CHI a chofnodi hyn ar eich cofrestriad. Gall eich rhif GIG helpu i ddod o hyd i chi
- Sefydliad Gwasanaethau Busnes (Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus) Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon (HSCNI), sy’n galluogi Cofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG i gysylltu â’r gwasanaeth hwn ar gyfer trigolion Gogledd Iwerddon a rhannu’r data sylfaenol sy’n angenrheidiol er mwyn cael eich Rhif Iechyd a Gofal a chofnodi hyn ar eich cofrestriad. Gall eich rhif Iechyd a Gofal helpu i ddod o hyd i chi
GIG Lloegr (NHS Digital gynt a unodd â GIG Lloegr ym mis Chwefror 2023):
- Mae Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG yn gweithio gyda GIG Lloegr ar hyn o bryd ac mae’n rhannu gwybodaeth am unigolion sydd ar Gofrestrfa Trawsblaniadau’r DU at ddibenion dadansoddi ac ymchwil. Pwrpas rhannu hyn yw astudio ffactorau risg ar gyfer datblygu canser y croen ar ôl trawsblannu organau, a gwella’r gofal a roddir i bobl sydd wedi cael trawsblaniad ac sy’n datblygu canser y croen.
Ni fydd NHSBT yn rhannu eich data y tu allan i’r sefydliad oni bai bod rheswm cyfreithiol dros wneud hynny, ac mewn achos o’r fath mi fyddwch fel arfer yn cael eich hysbysu o’r datgeliad hwn.
Mae NHSBT yn gweithio â thrydydd partïon i ddarparu gwasanaethau sy’n cefnogi ein gwaith, fel telathrebu, cymorth TGCh a chyfathrebiadau. Mae pob cwmni sydd â mynediad at ddata NHSBT yn gorfod dilyn cyfres o wiriadau diogelu data a phreifatrwydd trylwyr, ac mae’n cael ei gadw’n unol â’r un safon uchel o warchod data a rheoleiddio â NHSBT o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.
Gallwch ofyn am gael gwybod gyda pha sefydliadau y mae eich data wedi cael ei rannu drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid.
E-bost: customer.services@nhsbt.nhs.uk
Ar gyfer pob gwasanaeth, hoffem gadw mewn cysylltiad â chi i roi gwybod i chi am y gwaith a'r gwasanaethau gwerthfawr y mae Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG yn eu gwneud a rhoi gwybod i chi am ffyrdd eraill o gefnogi Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG. Rydych chi bob amser yn rheoli'r negeseuon a gewch.
Os ydych yn rhoddwr gwaed, byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth gyswllt ychwanegol i ni fel eich cyfeiriad e-bost a rhif ffôn symudol.
Gwnawn hyn er mwyn i ni allu darparu gwybodaeth amserol i chi ynglŷn ag apwyntiadau rhoi sydd ar gael, paratoi ar gyfer eich rhoddion a rhoi gwybod i chi lle y darparwyd eich rhodd.
Mae manylion llawn y telerau ac amodau sy’n gysylltiedig â bod yn rhoddwr gwaed ar gael ar wefan Rhoi Gwaed y NHSBT.
Os ydych am i ni newid y ffordd rydym yn cysylltu â chi, rhowch wybod i ni drwy gysylltu â ni:
Ffôn: 0300 123 23 23
Gallwch ddefnyddio ein gwefan heb roi unrhyw fanylion personol. Fodd bynnag, i gofrestru ar gyfer unrhyw wasanaethau fel rhoi gwaed, rhaid i chi roi data i wneud hyn. Mae cwcis yn gofnod ar eich cyfrifiadur sy’n cadw gwybodaeth am y tudalennau gwe penodol rydych chi'n ymweld â nhw a’r gwasanaethau a ddefnyddir gennych. Gallwch analluogi’r defnydd o gwcis, ond gall hyn gyfyngu ar ymarferoldeb ein gwefannau neu eich mynediad atynt.
Mae cwcis yn ffeiliau neu ddarnau o wybodaeth sy'n cael eu storio gan eich porwr ar yriant caled eich cyfrifiadur. Gall NHSBT ddefnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth amdanoch ac i'ch adnabod yn ystod eich ymweliad â'n gwefannau, fel yr adrannau penodol o’r safle rydych yn ymweld â hwy a'r gwasanaethau rydych yn eu defnyddio drwy ein gwefannau. Rydym yn casglu'r wybodaeth hon i deilwra ein gwefan ar gyfer eich diddordebau a’ch anghenion.
Gellir defnyddio cwcis hefyd i helpu i gyflymu eich gweithgareddau ar ein gwefannau yn y dyfodol. Er enghraifft, gall safle gydnabod eich bod wedi rhoi gwybodaeth bersonol i ni ac ni fydd yn gofyn i chi am yr un wybodaeth am yr ail dro.
Ailfarchnata
Rydym yn defnyddio cwcis hefyd i ddibenion aildargedu ar-lein i ddangos hysbysebion perthnasol gennym ar safleoedd trydydd parti, gan gynnwys gwefannau cyfryngau cymdeithasol, sy’n seiliedig ar dudalennau rydych wedi ymweld â hwy ar ein safle ni ac eraill.
Rydym yn cadw gwybodaeth cwcis am 30 diwrnod cyn i’r cwci ddod i ben.
Mae’r rhan fwyaf o borwyr wedi’u gosod i dderbyn cwci. Os yw’n well gennych, gallwch osod eich porwr i wrthod cwcis neu i’ch hysbysu pan fydd cwcis yn cael eu hanfon. Gall gwrthod cwcis y safle rydych yn ymweld ag ef olygu na fyddwch yn gallu mynd i rai rhannau o’r safle neu gael gwybodaeth bersonol pan fyddwch yn ymweld â’r safle. Am ragor o wybodaeth am ‘cwcis’ gweler yr adran ‘help’ ar eich porwr.
Mae ein tudalen gwybodaeth am gwcis hefyd yn cynnwys rhagor o wybodaeth.
Mae ein sefydliad yn gweithio i gydymffurfio â'r polisi optio allan Data Cenedlaethol.
Pryd bynnag y byddwch yn defnyddio gwasanaeth iechyd neu ofal neu unrhyw un o’n gwasanaethau, mae gwybodaeth bwysig amdanoch yn cael ei chasglu mewn cofnod claf ar gyfer y gwasanaeth hwnnw.
Mae casglu’r wybodaeth hon yn helpu i sicrhau eich bod yn cael y gofal a’r driniaeth orau bosibl.
Gall y wybodaeth a gesglir amdanoch pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaethau hyn hefyd gael ei defnyddio a’i darparu i sefydliadau eraill at ddibenion y tu hwnt i’ch gofal fel unigolyn i helpu gyda’r canlynol:
- gwella ansawdd a safon y gofal a ddarperir
- ymchwil i ddatblygu triniaethau newydd
- atal salwch a chlefydau
- monitro diogelwch
- cynllunio gwasanaethau
Y rhan fwyaf o'r amser, defnyddir data dienw ar gyfer ymchwil a chynllunio fel na ellir eich adnabod, ac os felly, ni fyddant eisiau eich gwybodaeth claf gyfrinachol.
Mae gennych ddewis a ydych am i’ch gwybodaeth claf gyfrinachol gael ei defnyddio fel hyn.
Os ydych yn fodlon â sut mae’r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio, nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth.
Os byddwch chi’n dewis optio allan, bydd eich gwybodaeth claf gyfrinachol yn dal i gael ei defnyddio i gefnogi eich gofal fel unigolyn.
Rhagor o wybodaeth neu gofrestru eich dewis i optio allan
Rhagor o wybodaeth am sut mae gwybodaeth claf yn cael ei defnyddio ar gyfer ymchwil iechyd a gofal.
Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth am sut a pham y defnyddir gwybodaeth claf, y mesurau diogelu a sut y gwneir penderfyniadau.
Gallwch newid eich meddwl ynglŷn â’ch dewis unrhyw adeg.
Nid yw data sy’n cael ei ddefnyddio neu ei rannu at ddibenion y tu hwnt i ofal unigolyn yn cynnwys rhannu eich data â chwmnïau yswiriant neu ei ddefnyddio at ddibenion marchnata.
Dim ond gyda’ch cytundeb penodol chi byddai data’n cael ei ddefnyddio fel hyn.
Gwasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG yw’r Rheolydd Data ar gyfer y data personol yr ydym yn ei gadw a’i brosesu amdanoch chi.
Ni yw’r Rheolydd Data hefyd ar gyfer Peryglon Difrifol Trallwyso Gwaed (SHOT). Gweler polisi preifatrwydd SHOT am ragor o wybodaeth.
Y Swyddog Diogelu Data yw Eleanor Ward, a gallwch gysylltu â hi yn:
Yn ysgrifenedig:
NHS Blood and Transplant
500 North Bristol Park
Filton
Bristol
BS34 7QH
UK
Drwy e-bost: Anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data
I gael cyngor annibynnol am ddiogelu data, preifatrwydd a materion rhannu data, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth annibynnol yn:
The Information Commissioner
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AGF
UK
Ffôn: 0303 123 1113
Awduron: Umar Sabat a Rosie Underwood
Tudalen wedi ei diweddaru ddiwethaf: 28 Medi 2022